Pynciau Llosg


Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae aelodau’r Fforwm yn chwilio am leoliadau addas i osod strwythurau pren rhidyllog ar nentydd a ffrydiau bychain ar frig dalgylch yr afon. Prosiect peilot yw hwn sydd â’r nod o arafu llif y dŵr drwy’r dalgylch cyfan drwy osod llawer o rwystrau bychain naturiol yn y cwrs dŵr a all, gyda’i gilydd, gael effaith fawr ar symudiad dŵr yn ystod cyfnodau o law.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Fforwm Dyffryn Clwyd.



Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae’r Fforwm yn cymryd diddordeb mawr yn natblygiad Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr hyn y bydd ei gyflwyniad yn y pen draw yn ei olygu i ffermwyr a chynefinoedd o fewn y Dalgylch. Mae’r Fforwm yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych i gyflawni ei weledigaeth mewn ffordd sy’n helpu ffermwyr i reoli’r tir am genedlaethau i ddod.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Fforwm Dyffryn Clwyd.


Rhywogaethau Estron Goresgynnol.

Rhywogaethau o blanhigion, anifeiliaid neu ficro-organebau sydd wedi’u cyflwyno i ecosystem y tu allan i’w hamrediad naturiol ac sydd â’r potensial i achosi niwed i’r amgylchedd, yr economi neu iechyd dynol yw


Mae aelodau’r fforwm yn rhannu gwybodaeth, rhannu adnoddau ac yn datblygu cynlluniau i ddod o hyd i ddulliau mwy effeithiol a chyfannol i gael gwared ar rywogaethau goresgynnol o fewn y dalgylch.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Fforwm Dyffryn Clwyd.

Share by: