A sheep is standing on top of a hill next to a river.

Croeso I Fforwm Dyffryn Clwyd

Ein Gweledigaeth

Mae Dalgylch Afon Clwyd angen y dŵr glanaf, adnoddau dŵr digonol, a chynefinoedd naturiol ffyniannus i helpu’r gymuned leol a’r economi i ffynnu.


Yn Fforwm Dyffryn Clwyd ein nod yw sicrhau hynny.


Fel Fforwm rydym yn gweithio i ddod â phobl, sefydliadau, diddordebau a materion ynghyd er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon. Trwy ein gwaith rydym yn dangos y gall dod â gwahanol bobl at ei gilydd a harneisio eu sgiliau a’u diddordebau wneud i bethau rhyfeddol ddigwydd!


Cydweithio a chyfathrebu yw’r allwedd i’n llwyddiant.


Mae’r Fforwm yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: 

Datblygu Diddordeb ac Ymgysylltiad Lleol

Rydym ar genhadaeth i danio chwilfrydedd, hybu ymwybyddiaeth ac ysbrydoli cyfranogiad yn rhyfeddodau Afon Clwyd a’r dalgylch.

Cefnogi Economi Leoledig

Rydym yn hyrwyddo economi sy’n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn cyfoethogi bywydau pob un tra’n lleihau’r effaith amgylcheddol - bydd pawb ar eu hennill!

Hyrwyddo Rheoli Llifogydd yn Gynaliadwy

Rydym yn cefnogi prosesau naturiol i helpu i reoli llifddyfroedd a risgiau llifogydd, gwella gwytnwch cymunedol a lleihau niwed i adnoddau naturiol - gan ganiatáu i ecosystemau adfer.

Hyrwyddo Defnydd Tir Adferol

Rydym yn eiriol dros ddefnydd tir sy’n cefnogi ffermwyr lleol ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu fel y gall pobl a natur gydfodoli.

Gwella Ansawdd Dŵr

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr croyw. Mae dŵr glân yn hanfodol ar gyfer natur a lles dynol.

A sheep is standing on top of a hill next to a river.

Cymryd Rhan

Mae’r sefydliadau sy’n gysylltiedig â Fforwm Dyffryn Clwyd yn weithgar yn Nalgylch Afon Clwyd – gyda chyngor, gwybodaeth, cyfleoedd, gweithgareddau a digwyddiadau sydd o fudd i’r ardal a’r trigolion sy’n byw yno

Share by: