Ynglyn â Fforwm Dyffryn Clwyd   

Menter a arweinir gan randdeiliaid yw Fforwm Dyffryn Clwyd a dyfodd o’r broses Datganiad Ardal a sgyrsiau yn ystod datblygiad Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru ac ers hynny mae wedi’i gefnogi gan dimau Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Cymru.


Mae’r Fforwm yn gweithio i ddod ag unigolion a sefydliadau sy’n rhannu pryderon cyffredin am yr ardal ynghyd ac sy’n barod i gydweithio i gyflawni pethau. 

Aelodau’r Fforwm 

A map showing the location of colwyn bay and flintshire

Ynglŷn â Dalgylch Afon Clwyd:

Ardal o 821.5 cilometr sgwâr yw dalgylch afon Clwyd. Mae ei ffin sy’n ymestyn am 230.9 cilometr gyda llain arfordirol 31.1 cilomedr o hyd sy’n cynnwys dyfroedd ymdrochi pwysig. Mae’n cwmpasu rhannau o dri awdurdod unedol: Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, gyda Chonwy a Sir Ddinbych yn rhannu corff gwasanaeth cyhoeddus tra bod gan Sir y Fflint ei gorff gwasanaeth cyhoeddus ei hun.

Gellir rhannu’r dalgylch hwn yn ddau is-ddalgylch: Clwyd ac Elwy. Mae afon Clwyd yn tarddu yng Nghoedwig Clocaenog ac yn ymdroelli’n hamddenol am 56 cilometr. Ar y llaw arall, mae afon Elwy, y mae ei tharddiad ar Fynydd Hiraethog, yn fwy tueddol o fod â newidiadau cyflym yn llif y dŵr, yn enwedig yn ystod adegau o law trwm a chyfnodau sych.


Amaethyddiaeth yw’r prif ddefnydd tir yn yr ardal hon, gyda thir isel ffrwythlon Dyffryn Clwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio âr a llaeth dwys, tra bod ffermio defaid a chig eidion cymysg yn gyffredin yn yr ucheldiroedd llai ffrwythlon i’r gorllewin. Mae yna hefyd ardaloedd coediog, a’r mwyaf ohonynt yw Coedwig Clocaenog. Ceir hefyd beth gweithgarwch diwydiannol, chwarela yn bennaf, ac ychydig o ffermydd pysgod. Yn olaf, yng nghyflifiad afonydd Elwy a Chlwyd mae nodweddion y dalgylch yn newid wrth iddo ddod yn llanwol a mynd i mewn i aber cul cyn cwrdd â Bae Lerpwl yn y Rhyl.

Share by: