Prosiect Adferiad Dyffryn Clwyd

Gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i greu dyfodol gwydn yn Afon Clwyd

Mae cais Fforwm Dyffryn Clwyd i Gynllun Adnoddau Naturiol Integredig, Adferiad Dyffryn Clwyd yn ceisio cydweithio â chlystyrau fferm yn y dalgylch, gan cynnig atebion ac ymarferol, sydd nid yn unig yn gwarchod busnesau fferm rhag effeithiau newid hinsawdd a dirywiad ym myd natur, ond hefyd i’w galluogi i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol. Trwy brofi a mireinio ymyriadau ymarferol a rhannu gwersi, nod y cynllun yw creu dyfodol mwy gwydn, cynaliadwy ar gyfer y cymunedau ffermio yn rhannau uchaf Clwyd.



Gan weithio gyda ffermydd penodol yn y dalgylch, bydd y prosiect yn ceisio codi ffensus ar lan y nant, adfer hen wrychoedd a plannu rhai newydd, plannu tondir cymysg, gosod offer cynaeafu dŵr glaw, storio dŵr a chafnau dŵr. 


Bydd cyfleoedd hyfforddi i ffermwyr am arfer da o safbwynt iechyd y pridd, sut i wella gwydnwch busnes neu eu cyfeirio at ble i gael gwybodaeth am gynlluniau eraill i ffermwyr a thirfeddianwyr os na allant gymryd rhan yn y cynllun INRS.


Y gobaith yw y bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Gorffennaf 2025 a Mawrth 2028. Mae digonedd o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan:


  • Os hoffech ddod i ddigwyddiadau rhannu gwybodaeth yn y dyfodol, cliciwch yma
  • Efallai y byddwch am gymryd rhan mewn prosiect gwyddoniaeth dinasyddion a dysgu mwy am ansawdd dŵr y dalgylch – yna cliciwch yma 


Neu os hoffech ddysgu mwy am Fforwm Clwyd yn gyffredinol cliciwch yma

Share by: